+44 (0) 1407 764608

Mae'r dogfennau isod yn cynnwys manylion am wasanaethau y mae Cyngor Tref Caergybi yn eu darparu i'r gymuned drwy arian dreth y dref.

services booklet

Download: Saesneg | Cymraeg

 

Gwasanaethau y mae Cyngor Tref Caergybi yn eu darparu i'r gymuned drwy braesept y dref o’r arian a godwyd drwy'r Empire, Safle Gadael bagiau, llogi Neuadd y dref. Mae'r Cyngor Tref yn gallu cadw'r praesept yn isel a buddsoddi'r arian a godwyd drwy'r prosiectau hyn ar gyfer gwasanaethau cymuendol eraill fel y toiledau yn SWIFT Square, teledu cylch cyfyng ac ardaloedd chwarae i'r plant. Dyma'r hyn rydych yn ei dalu os ydych yn byw mewn band ' A ' £1.47 yr wythnos; am fand ' B ' mae'n £1.71 yr wythnos; ar gyfer band ' C ' mae'n £1.96 yr wythnos; am fand ' D ' mae'n £2.20 yr wythnos. Nid yw Cyngor y Dref yn derbyn unrhyw gyllid o drethi busnes.

Dyma rai o'r gwasanaethau a ddarperir:

  1. Cyllido 87% o gost cynnal Mynwent Maeshyfryd. Cyllidir 13% gan Gyngor Cymuned Bae Trearddur
  2. Neuadd y Dref yn cynnwys llogi’r neuadd, llogi’r siambr a llogi’r swyddfeydd
  3. Sinema’r Empire
  4. Canolfan Chwarae’r Empire
  5. Y Parc
  6. Y Senotaff
  7. Yn rhannol gyfrifol am Gloc y Dref
  8. Cofgolofn i goffáu llongwyr yr Iseldiroedd yn Nhraeth Newry
  9. Toiledau Cyhoeddus yn Swift Square yn y dref ac yn Nhraeth Newry.
  10. System Cylch Cyfyng i’r dref
  11. Rheoli’r chwe byngalo (Elusendai Penrhos) yn Kingsland i’r henoed
  12. Lle chwarae Traeth Newry
  13. Lle chwarae Kingsland
  14. Lle chwarae Ffordd Llundain
  15. Lle chwarae Ffordd Llanfawr
  16. Lle chwarae Hen Ffordd yr Ysgol Llaingoch
  17. Lle chwarae Lôn Newydd Llaingoch
  18. Lle chwarae Peibio
  19. Gwirio’r offer chwarae yng Nghanolfan Gymunedol Gwelfor
  20. Amrywiol gontractau amaethyddol gydag awdurdodau a busnesau lleol
  21. Yn gyfrifol am arwyddion gwybodaeth o amgylch y dref.
  22. Y rhan fwyaf o gysgodfannau bysus o amgylch Caergybi
  23. Codi sbwriel yn y Porth Celtaidd a, hefyd, glanhau’r gwaith dur dan gontract i Gyngor Sir Ynys Môn
  24. Rhoi rhoddion i elusennau lleol gan gynnwys Gŵyl Hamdden/Morol Caergybi
  25. Sicrhau 26 swydd gynaliadwy yn y dref
  26. 75 rhandir yn Ffordd Plas.
  27. Goleuadau Nadolig yn y dref
  28. Ymgynghorir â Chyngor y Dref ynghylch ceisiadau cynllunio i’r dref ond Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor Sir sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.
  29. Mae’r 16 Cynghorydd Tref yn rhoi o’u hamser a gallant hawlio lwfans o £150 y flwyddyn yn ogystal â lwfans mynychu.
  30. Bydd y Cyngor Tref yn parhau i weithio’n agos gyda’r holl ddarparwyr sy’n dymuno dod i Gaergybi er mwyn sicrhau y caiff pobl leol flaenoriaeth o ran y gwaith a gaiff ei greu a, lle bynnag y bo modd, er lles cymunedol y dref.
  31. Mae cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd. Mae cofnodion ar wefan y Cyngor er gwybodaeth.
  32. Cyflwynir geiriadur gan y Cyngor Tref i bob plentyn Ysgol Gynradd sy’n mynd i fyny i’r Ysgol Uwchradd.
  33. Cynhelir amrywiol ddiwrnodau cymunedol..

Nid Cyngor Tref Caergybi sy'n gyfrifol am y gwasanaethau canlynol.

Cysylltwch â'r Cyngor Sir neu eich Cynghorydd Sir am y gwasanaethau canlynol.

  1. Grantiau i fusnesau neu unigolion
  2. Priffyrdd gan gynnwys parcio a linellau melyn
  3. Tai
  4. Penderfyniadau terfynol ar bob cais cynllunio.
  5. Gwasanaethau Cymdeithasol
  6. Goleuadau stryd
  7. Gwaredu gwastraff