+44 (0) 1407 764608

Mae Cyngor Tref Caergybi yn chwilio am fusnesau lleol i’w helpu i adfywio’r Dref a chael mwy o bobl i ddod i Gaergybi.

Mae cynlluniau ar y gweill i adnewyddu’r cysgodfannau adfeiliedig i greu ciosg mwy modern i fasnachwyr lleol eu llogi’n flynyddol, gan annog trigolion Caergybi i siopa, bwyta ac yfed yn lleol.

Mae parhau i lynu'n gaeth wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a chyngor iechyd yn allweddol bwysig i osgoi ymchwydd mewn Coronafeirws ar Ynys Môn, yn ôl Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi.

Mae hi'n credu gryf y gallai difaterwch a diystyru, mewn unrhyw ffordd, y canllawiau hollbwysig sy'n ceisio gwarchod cymunedau, ddadwneud holl waith caled ac aberth trigolion lleol, y GIG a gweithwyr allweddol hyd yma.

Fel yr oedd pethau ddoe (Dydd Mawrth, Medi 8fed), roedd nifer yr achosion Coronafeirws a gadarnhawyd ar Ynys Môn yn 469.

Cinio Dathlu Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer Pensiynwyr Caergybi (mynediad trwy tocyn yn unig)

Dydd Sul 1 Mawrth yn y Standing Stones, Holyhead LL65 2UQ

Cinio prynhawn gydag adloniant gan Gôr Meibion Caergybi a Bangor

Mae 100 o docynnau - yn rhad ac am ddim , ar gael yn Neuadd y Dref, Caergybi - 01407 764608 neu oddi wrth Beryl Warner 01407 765760. Bydd clydiant ar gael i’r rheini â phroblemau symud.

Noddwyd gan/Sponsored by: Standing Stones, Holyhead Town Council, Holyhead Round Table, Ynys Môn Labour Party