+44 (0) 1407 764608

Croeso i Ynys Gybi-rhan o Ynys Môn sydd wedi ei drwytho mewn canrifoedd o hanes dynol a gyda chyfoeth o fywyd gwyllt a harddwch naturiol. Man lle mae grug gwyllt-ar bennau bryn, clogwyni môr uchel, cytrefi o adar môr prin, cefn gwlad gwyrdd heb ei ddifetha ac adeiladau ac henebion.

Cymerwch amser i archwilio treftadaeth Caergybi, a byddwch yn darganfod hanesion o fri a diddorol yn llawn straeon o ffawd a thrychineb; o Saint, milwyr a smyglwyr; o achubwyr dewr o'r môr ac o chwedlau llenyddol a pheirianwyr dyfeisgar. Felly beth am ymarfer eich coesau a'ch dychymyg wrth i chi archwilio'r dref porthladd brysur hon?

report icon 150

Lawrlwythwch gopi

 

Cerwch am dro.

Ffordd wych o archwilio Ynys Gybi yw ar droed a thrwy ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus. O fewn ychydig funudau gallech fod yn cerdded llwybr arfordirol Ynys Môn, a mwynhau golygfeydd panoramig godidog, gan ymweld â henebion a bod yn dyst i ddramâu lliwgar a swnllyd y nythfeydd adar y môr.

Am fwy o wybodaeth am y llwybr arfordirol ffoniwch 01248 752495, neu ewch i www.angleseycoastalpath.com

 

Y Llwybr Treftadaeth

1. Mynydd Caergybi

Er mai dim ond 220 metr (720 tr) y saif, Mynydd Caergybi yw pwynt uchaf Ynys Môn. Wedi amgylchynnu gyda gorchudd o grug, ceir golygfeydd ysblennydd o Gaergybi a thuag at Eryri, Pen Llŷn a'r Gogarth. Ar ddiwrnod clir gallwch hefyd weld Ynys Manaw ac Iwerddon.

2. Parc Gwledig Morglawdd Caergybi

Mae'r hen chwarel yma (a grewyd yn ystod y gwaith o adeiladu Morglawdd Caergybi) bellach yn hafan bywyd gwyllt ac yn lle gwych i ddechrau archwilio Mynydd Caergybi ac arfordir creigiog. Mae canolfan wybodaeth a siop fechan yno hefyd. Ffôn: 01407 760530

3. Siambr Gladdu Trefignath

Cyfres o dair Siambr a ddefnyddiwyd dros gyfnod o 1,500 o flynyddoedd. Mae'n bosibl fod y cynharaf wedi cael eu godi tua 3750 CC ar safle anheddiad Neolithig (Oes Newydd y Cerrig).

4. Mynydd Bryngaer

Mae yna Bryngaer anferth o oes yr haearn ar ben Mynydd Caergybi, lle saif adfail tŵr gwylio Rhufeinig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

5. Cytiau crynion Tŷ Mawr

Mae Cytiau crynion Tŷ Mawr yn gorwedd ymysg rhedyn a grug, gydag olion anheddiad sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Neolithig (oes y cerrig yn hwyr). Mae sawl casgliad archaeolegol diddorol wedi cael eu dadgladdu yma, yn cynnwys morthwylion, cerrig beddi, ceiniogau a chrochenwaith. Roedd pobl yn byw yma fwy neu lai yn barhaus rhwng 200 CC a 500 AD.

6. Ynys Lawd

Gyda lleoliad dramatig o oleudy a Phont grog yr 19fed ganrif wrth droed 60 medr (200 tr) o glogwyni.Neu treugliad o arogl a lliw yn gweu’r arfordir a’r olygfa o filoedd o adar môr yn nythu a chlwydo ar siliau’r clogwyni – rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i rywbeth i ymhyfrydu ynddo pan fyddwch yn ymweld. Mae teithiau cerdded tywysedig wedi’i drefnu gan y Gymdeithas Frenhinol er mwyn Gwarchod Adar (RSPB) yn cychwyn o'r ganolfan ymwelwyr i'r warchodfa natur yn Nhŵr Elin drwy gydol yr haf. Am fanylion cysylltwch ar: 01407 764973. 

7. Parc Arfordirol

Mae ardal cysgodol Bae Beddmanarch yn denu adar hela, adar y môr a rhydwyr. Gallwch fwynhau picnic mewn coetir gerllaw a cherdded o amgylch un o'r llwybrau natur amlwg. Ffôn: 01407 763333. Gallwch hefyd ymweld â chaffi'r Tolldy. Ffôn: 01407 760247.

8. Penrhosfeilw

Yn ôl traddodiad lleol roedd y cerrig trawiadol 3m o hyd (10troedfedd) yn dyddio o'r Oes yr Efydd ac unwaith yn sefyll yng nghanol cylch o gerrig.

 

1. Cloc yr Orsaf

Mae cloc yr orsaf yn coffau agoriad yr orsaf newydd yn 1880 gan Dywysog Cymru ar y pryd, sef Albert Edward.

2. Eagle and Child

Bu'r Eagle and Child, a adnabyddir yn ddiweddarach fel y Royal Hotel, yn nodi diwedd y daith yn y 18fed ganrif i’r Post a'r Goets fawr yn cyrraedd o Lundain. Gallwch dal weld y drws llydan lle roedd y cerbydau yn arfer mynd heibio er mwyn trwyddo i’r iard gefn.

3. Sgwâr y Farchnad

Hyd at yr 1860au roedd y sgwâr yma’n galon fasnachol i’r dref. Byddai Masnachwyr yn dyfod o bob rhan o Ynys Môn i werthu eu nwyddau ar grisiau’r farchnad. Roedd yn fan ymgynnull traddodiadol i'r cyhoedd yn ystod ffeiriau a gwyliau. Ail-sefydlwyd stryd y farchnad yn 2002 ac fe'i cynhelir bob dydd Llun.

4. Tŷ Stanley

Wedi'i adeiladu yn 1810 gan deulu Stanley, preswylydd y ty oedd Capten John McGregor Skinner, un o drigolion mwyaf darlungar Caergybi a môr-leidr enwog, a foddwyd mewn storm ger Ynys Lawd yn 1832. Roedd ganddo Gigfran fel anifail anwes a hwnnw’n aml yn mynd gydag ef, gan deithio o gwmpas ar ei ysgwydd!

5. Cof golofn Skinner

Yn edrych dros yr harbwr i goffáu'r Capten John McGregor Skinner.

6. Eglwys Sant Cybi

Gwnaed yr Eglwys wreiddiol yn y 6ed ganrif allan o bren. Mae elfennau hynaf o’r Eglwys bresennol y Plwyf yn dyddio nôl i'r 13eg ganrif. Mae'r muriau sy'n amgáu o amgylch yr Eglwys yn weddillion Caer Rufeinig o’r 4ydd ganrif. A ystyrir i fod yr olion hynaf a mwyaf cyflawn o'u fath yn y Deyrnas Unedig. Edrychwch allan am Gapel llai Eglwys y Bedd sydd yn y fynwent sy'n nodi safle claddedigaeth 5ed/6ed ganrif, sydd bosib Sirigi yn y 5ed ganrif a Sant Cybi yn y 6ed!

7. Iard y Marina

Yn ystod y 19eg ganrif roedd Llongau Stêm enfawr, u rjan fwyaf yn perthyn i Swyddfa'r Bost, yn cael eu gwasanaethu yma. Er mwyn cael golwg agosach, cerddwch i Sgwâr y Marina.

8. Pier y Morlys

Mae Arch y Morlys yn nodi diwedd yr hen A5 o Lundain i Ffordd Caergybi. Y lle gorau i weld y man yw o iard Eglwys Sant Cybi.

9. Neuadd y Farchnad

Yn 1855, symudwyd safle masnach canolog Caergybi o safle traddodiadol Market Cross i'r neuadd farchnad newydd a adeiladwyd yn bwrpasol. Roedd yr Anrhydeddus William O Stanley, cyllidwr yr adeilad newydd, yn codi tâl ar fasnachwyr am y fraint o werthu eu nwyddau yma.

10. Amgueddfa Forwrol Caergybi

Mae hanes morwrol hir a nodedig i Gaergybi yn cael ei hadrodd yma trwy gymysgedd bywiog o arddangosfeydd, arteffactau a modelau.

11. Gorsaf Bad Achub Caergybi

Mae gan Caergybi bad achub ers 1828. Yn yr 19fed ganrif, achubodd un o gychod bywyd enwocaf y dref, ' Dug Northumberland ', 239 o fywydau yn ystod ei 25 mlynedd yn gwasanaethu.

12. Morglawdd Caergybi

Does dim modd i chi fethu â chael eich plesio gan y morglawdd enwog 13/4 milltir o hyd yng Nghaergybi. Yn nhermau peirianneg yn cyfateb i dwnnel y Sianel yn y 19eg ganrif. Costiodd £1,285,000 i’w hadeiladu (a chollwyd dros 40 o fywydau wrth ei hadeiladu) gan gymeryd dros 7 miliwn tunnell o gerrig o fynydd Caergybi – a adnabyddir y safle'r hyn heddiw fel Parc Gwledig y Morglawdd. Gallwch ymweld â'r Goleudy ar ddiwedd y morglawdd.